a a a Display Options Cymraeg
Follow Ofcom on Facebook Follow Ofcom on Twitter Subscribe to the Ofcom RSS Follow Ofcom on YouTube Follow Ofcom on YouTube

Independent regulator and competition authority
for the UK communications industries.

Search Ofcom


Polisi Defnyddwyr Ofcom

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Ofcom yw rheoleiddiwr annibynnol teledu, radio, telegyfathrebiadau a gwasanaethau cyfathrebu diwifr yn y DU. Mae’r gyfraith a sefydlodd ni yn datgan bod rhaid i ni gyflawni’n rôl mewn modd sy’n helpu pobl yn eu rôl fel defnyddwyr ac fel dinasyddion. Mae’r llyfryn hwn yn grynodeb o ymgynghoriad sy’n disgrifio’n hymagwedd at helpu pobl yn eu rôl fel defnyddwyr. Nid yw’n cwmpasu ein rôl fel dinasyddion. Byddwn yn bwrw golwg ar y rôl honno mewn prosiectau eraill. Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cwmpasu rhaglenni teledu a radio - rydym yn canolbwyntio yma ar wasanaethau telegyfathrebu sefydlog a diwifr, a’r gwasanaethau darlledu (fel teledu lloeren a chebl) a ddefnyddir i gyflwyno’r rhaglenni hynny.

Y syniad sydd y tu ôl i’r ddogfen hon yw rhoi crynodeb i chi o’n cynigion ni. Mae’n disgrifio’r hyn yr ydym yn ystyried y dylem ni ei wneud i helpu defnyddwyr, ac ymhle y dylem ni ganolbwyntio’n hymdrechion dros y ddwy neu dair blynedd nesaf. Byddem yn hoffi cael eich barn am y cynigion hyn.

Cewch weld y ddogfen ymgynghori gyfan ar ein gwefan yn www.ofcom.org.uk. Rydym wedi ceisio osgoi defnyddio jargon, ond mae’r eirfa ar ddiwedd y ddogfen hon yn esbonio rhai termau technegol.

Mae'r ddogfen lawn islaw

In this section

Back to top