Adolygiad o’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol – Datganiad
Welsh Version
Crynodeb
1.1 Mae Gwasanaeth Cyffredinol yn sicrhau bod gwasanaethau llinell sefydlog ar gael am bris fforddiadwy i bob dinesydd a chwsmer ledled y DG.
1.2 Mae cwmpas y Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyffredinol (‘USO’) yn cael ei ddiffinio gan Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyffredinol yr CE (‘USD’). Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn pennu’r gwasanaethau y mae’n rhaid eu darparu ledled y DG yn y Gorchymyn Gwasanaeth Cyffredinol (‘y Gorchymyn’). Rhoddwyd y Gorchymyn ar waith gan Ofcom drwy amodau penodol ar Ddarparwyr Gwasanaeth Cyffredinol (‘USP’), BT a Kingston Communications. Mae gwasanaethau USO yn cynnwys: cynlluniau tariff arbennig i gwsmeriaid incwm isel; cysylltiad â’r rhwydwaith sefydlog, sy’n cynnwys mynediad gweithrediadol i’r rhyngrwyd; mynediad daearyddol rhesymol i flychau ffôn cyhoeddus; a darparu gwasanaeth cyfleu testun i gwsmeriaid â nam ar eu clyw.
1.3 Mae Ofcom wedi adolygu USO er mwyn:
- sicrhau bod y rhwymedigaethau’n parhau i fodloni anghenion defnyddwyr wrth i ofynion a thechnoleg newid;
- dod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng anghenion cwsmeriaid sy’n agored i niwed ac amodau masnachol newidiol; a
- gofalu bod manteision mesurau’n cyrraedd y rheiny y mae arnynt eu hangen trwy dargedu a chreu cymhelliannau.
1.4 Hon yw’r drydedd ddogfen y mae Ofcom wedi’i chyhoeddi yn ystod yr adolygiad. Mewn dogfen ymgynghori ar 10 Ionawr 2005 (‘ymgynghoriad Ionawr’), archwiliodd Ofcom y modd y mae USO yn gweithredu ar hyn o bryd, a chyflwynodd gyfres o gynigion ar gyfer newid. Mewn datganiad ac ymgynghoriad pellach a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2005 (‘datganiad Mehefin’), nodwyd ein casgliadau a gofynnwyd am sylwadau ar gynigion ar gyfer newidiadau cyfreithiol i weithredu’r casgliadau hynny. Cawsom 50 o ymatebion i’r ddogfen honno. Ein bwriad oedd cwblhau’r adolygiad erbyn diwedd 2005 ond cawsom ein hatal gan yr angen i ystyried materion cyfreithiol yn deillio o anghydfod a godwyd gan ddarparwyr yn erbyn y ffaith bod BT wedi cynyddu’r gost gysylltu â gwasanaeth Text Direct BT. Mae’r datganiad hwn bellach yn nodi ein casgliadau.
1.5 Fel Darparwyr Gwasanaeth Cyhoeddus, mae’n rhaid i BT a Kingston sicrhau y gall cwsmeriaid fforddio gwasanaeth ffôn. Cyflawnir hyn drwy gynlluniau tariff arbennig wedi’u targedu at gwsmeriaid ar incymau isel. Mae cynlluniau presennol BT - Cynllun Defnyddiwr Ysgafn (LUS) ac InContact - yn defnyddio procsi defnydd isel er mwyn denu cwsmeriaid incwm isel, ac mae rhyw 60% o ddefnyddwyr o gartrefi incwm isel. Ymgynghorodd Ofcom ar gynigion BT ar gyfer cynllun arall wedi’i dargedu’n fwy uniongyrchol at y rheiny ar incymau isel. Yn natganiad Mehefin, nododd Ofcom gynllun diwygiedig wedi’i dargedu a gynigiwyd gan BT, wedi’i addasu i adlewyrchu pryderon a godwyd mewn ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd y newidiadau’n cynnwys disgownt am dalu’n gynnar a chaniatáu ar gyfer mwy o alwadau di-dâl wrth rentu’r llinell.
1.6 Barn Ofcom oedd bod y cynllun yn gynllun hyfyw i ddisodli’r cynlluniau presennol. I amddiffyn cwsmeriaid sydd ar y cynlluniau presennol, dywedodd Ofcom na fyddai’r cynlluniau presennol yn cael eu tynnu’n ôl nes bod 600,000 o gwsmeriaid yn defnyddio’r cynllun newydd.
1.7 Ers datganiad Mehefin, mae’r meini prawf cymhwyster wedi’u hehangu yn dilyn pryderon a fynegwyd mewn ymatebion. Bydd y cynllun ar gael i gwsmeriaid sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Chwilio am Waith sy’n seiliedig ar incwm a Chredyd Pensiwn.
1.8 Mae polisi datgysylltiadau yn ddangosydd arall fforddadwyedd. Yn ddiweddar adolygodd BT ei weithdrefnau rheoli credyd ac wedi cynyddu ei waith marchnata cynlluniau, fel rhagdalu i helpu cwsmeriaid sydd ag anawsterau talu. Ymddengys bod hyn yn helpu cwsmeriaid a bod lefelau datgysylltu’n dechrau gostwng.
Blychau Ffôn Cyhoeddus
1.9 Mae Blychau Ffôn Cyhoeddus (PCB) yn darparu gwasanaeth sy’n un gwerthfawr ac angenrheidiol i lawer o bobl nad oes ffôn ganddynt neu’r rheiny sydd i ffwrdd o’u cartref, na allant, am ba reswm bynnag, ddefnyddio’u ffôn symudol. Mae llawer o ddefnyddwyr dan anfantais ac agored i niwed yn dal i ddibynnu ar Flychau Ffôn Cyhoeddus.
1.10 Mae’n ofynnol i BT a Kingston sicrhau lledaeniad digonol o PCBs. Mae Ofcom o’r farn mai ar lefel leol y pennir lledaeniad digonol orau. Ni all y PCB olaf gael ei symud o safle ar hyn o bryd os bydd cyngor lleol yn gwrthwynebu – ‘y feto leol’. Gan fod refeniwiau wedi gostwng, mae BT wedi dadlau bod y feto leol yn rhy gyfyngol. Yn natganiad Mehefin, daeth Ofcom i’r casgliad y dylai’r feto leol barhau, ond y dylai gael ei chyfyngu i un cyngor ym mhob ardal, a pharhau i ymgynghori â chyrff cyhoeddus lleol eraill. Y cyrff â’r feto fydd y cynghorau unedol, cynghorau dosbarth, cynghorau metropolitan neu gynghorau cyfatebol. Mae hyn yn newid o ddatganiad Mehefin lle cynigiodd Ofcom y dylai cynghorau sir ddal y feto mewn awdurdodau dwy haen; yng ngoleuni ymatebion, mae Ofcom wedi dod i’r casgliad y dylai’r feto gael ei dal gan gynghorau dosbarth yn yr ardaloedd hyn.
1.11 Fel y nodwyd yn natganiad Mehefin, caiff y cyfnod ymgynghori ar gyfer cynlluniau arfaethedig i symud blychau ei estyn o 42 i 90 diwrnod i wneud y broses yn un fwy tryloyw a chyson. Mae Ofcom yn cyhoeddi arweiniad ymgynghori. Mae Ofcom yn newid y diffiniad o ‘safle’ – mae hwn yn pennu pa PCBs sy’n destun feto leol – o 100 i 400 metr. Hefyd, bydd mwy o ryddid i BT a Kingston ddefnyddio PCBs di-arian.
1.12 Mae Ofcom yn cyhoeddi taflen i randdeiliaid am y rheolau’n ymwneud â symud PCBs, a fydd yn cael ei dosbarthu yn dilyn y datganiad hwn.
Gwasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau
1.13 Mae cyfleu testun yn wasanaeth allweddol i gwsmeriaid sydd ag anableddau. Fodd bynnag, mae angen iddo esblygu wrth i’r galw a thechnoleg newid. Fel y nodwyd yn natganiad Mehefin, daeth Ofcom i’r casgliad y dylid sefydlu Panel Cynghori Rhanddeiliaid ar gyfer y gwasanaeth cyfleu testun, a chyhoeddi cynllun ac adroddiad blynyddol am weithrediad y gwasanaeth. Bydd y newidiadau hyn yn gwella tryloywder ac atebolrwydd. Mae astudiaeth yn cael ei chynnal ar ran Ofcom gan City University i’r gwasanaeth cyfleu fideo a gwasanaeth teleffoni ag isdeitlau.
1.14 Mae Ofcom yn cynnig hefyd y dylid gwneud newidiadau eraill i’r gofynion ar ddarparwyr mewn perthynas â gwasanaethau i gwsmeriaid anabl. Mae’r rhain yn cynnwys estyn cwmpas cwsmeriaid sy’n gallu derbyn biliau a chontractau mewn fformatau arbennig, a chynyddu rhai gofynion hygyrchedd ar gyfer PCBs. Bydd angen newidiadau i’r amodau perthnasol o ganlyniad i’r newidiadau hyn. Bydd Ofcom yn cynnig y newidiadau hyn mewn dogfen ymgynghori ar wahân yn fuan. Bydd y ddogfen hon yn ymdrin â materion cyfreithiol hefyd sy’n deillio o’r anghydfod a godwyd gan ddarparwyr ynghylch y gost gysylltu â gwasanaeth Text Direct BT.
Darparu cyswllt ar gyflymderau sy’n caniatáu mynediad gweithrediadol i’r rhyngrwyd
1.15 Mae’n ofynnol i BT a Kingston ddarparu cyswllt ar gais rhesymol ac am brisiau unffurf, beth bynnag yw’r lleoliad daearyddol. Mae’r gofyniad hwn yn arbennig o werthfawr i gwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig anghysbell na allai’r farchnad eu gwasanaethu fel arall. Lle bydd gosod llinell newydd yn costio £3,400 neu lai, mae BT yn pennu tâl safonol. Lle bydd gosod llinell newydd yn costio mwy na £3,400, mae BT yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwsmer dalu’r costau dros ben (ynghyd â’i dâl cyswllt safonol). Daeth Ofcom i’r casgliad y byddai cyfiawnhad clir i BT beidio â chodi prisiau unffurf. Mae Ofcom felly’n caniatáu i BT godi prisiau nad ydynt yn rhai unffurf dros £3,400, ac yn cyhoeddi arweiniad a fydd yn awgrymu bod BT yn cymhwyso’r tâl safonol pan fydd costau’n uwch na £3,400 ar gyfer cwsmeriaid sy’n arbennig o agored i niwed.
1.16 Mae’r gofyniad ar BT a Kingston i ddarparu cyswllt ar gais rhesymol yn cwmpasu darparu cyswllt band cul sy’n gallu rhoi ‘mynediad gweithrediadol i’r rhyngrwyd’ (FIA). Cafodd canllawiau ar FIA eu cyhoeddi yn 2003 a ddywedodd y dylai defnyddwyr allu disgwyl cyflymderau cysylltu o 28.8 kbit/s o leiaf. Hefyd, roedd yn nodi mesurau y dylai darparwyr gwasanaeth cyffredinol eu cymryd mewn ymateb i gwynion ynghylch cyflymderau data. Mae’r Canllawiau wedi bod o fudd, ac mae Ofcom wedi dod i’r casgliad nad oes angen unrhyw newidiadau sylweddol ar hyn o bryd. Yn benodol, bydd meincnod yr isafswm cyflymder yn aros ar 28.8 kbit/s.
Costau a buddion darparu USO
1.17 Mae USO yn cael ei ariannu ar hyn o bryd gan BT a Kingston, gan yr ystyriwyd nad yw’r rhwymedigaethau yn faich annheg arnynt. Yn y ddogfen ymgynghori, rhoddodd Ofcom ddiweddariad o amcangyfrifon o’r costau a’r buddion i BT o ddarparu USO. Roedd y rhain yn awgrymu bod y costau ynghlwm wrth wasanaethau cwsmeriaid aneconomaidd er 2001 wedi gostwng yn sylweddol, tra bod costau darparu ffônau talu aneconomaidd wedi codi’n sylweddol gan swm tebyg. Mae buddion yn sgil darparu gwasanaethau cyffredinol yn deillio’n bennaf o ddelwedd brand a hysbysebu ar PCBs. Amcangyfrifodd Ofcom fod y buddion wedi aros yn sefydlog fwy neu lai. Fe wnaethon ni amcangyfrif bod costau cyfredol USO i BT yn rhyw £57-74m a bod y buddion o gwmpas £59-64m. Mae Ofcom wedi dod i’r casgliad bod yr amcangyfrifon hyn yn rhesymol, ac mae o’r farn ei bod yn annhebygol bod baich ariannol gormodol ar BT ar hyn o bryd o ganlyniad i USO. Fodd bynnag, mae Ofcom yn bwriadu cynnal dadansoddiad cost a budd o’r ddarpariaeth USO gan gychwyn yn 2007 ar ôl cyflwyno’r newidiadau i’r rhwymedigaeth a nodir yn y ddogfen hon.
Datblygiadau yn y dyfodol
1.18 Mae’r adolygiad USO yn canolbwyntio ar y ddwy i bum mlynedd nesaf, ac fe’i cynhaliwyd ochr yn ochr â’r Adolygiad Strategol o Delathrebu (‘Adolygiad Telathrebu’) a edrychodd ar faterion tymor hwy Gwasanaeth Cyffredinol. Cafodd casgliadau’r Adolygiad Telathrebu ar USO eu nodi gan Ofcom ym mis Medi 2005. Roedd yr Adolygiad Telathrebu’n pwysleisio pwysigrwydd USO fel ‘rhwyd ddiogel’ ar gyfer defnyddwyr sy’n agored i niwed, ond nododd efallai y bydd angen newid y mecanweithiau ar gyfer ariannu, er enghraifft cronfa Gwasanaeth Cyffredinol, a darparu gwasanaeth cyffredinol, os a phan ddaw’r ddarpariaeth USO yn faich annheg. Gall fod yn briodol hefyd newid cwmpas cyffredinol USO. Er nad yw Ofcom yn credu bod achos dros gynnig bod gwasanaethau cyffredinol yn cael eu hestyn i gynnwys band eang ar hyn o bryd, ystyriodd yr Adolygiad Telathrebu sut y gallai cwmpas USO esblygu dros amser.
1.19 Yn ogystal, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wrthi’n adolygu’r fframwaith cyfarwyddebau telegyfathrebu. Mae’r adolygiad hwn yn cynnwys yr USD. Mae Ofcom, gyda’r Adran Masnach a Diwydiant, yn cyfrannu at yr adolygiad hwnnw. Bydd y casgliadau’n arwyddocaol i esblygiad yr USO yn y dyfodol, a byddant yn darparu’r cefndir ar gyfer adolygiad nesaf Ofcom o’r rhwymedigaeth.
