a a a Display Options Cymraeg
Follow Ofcom on Facebook Follow Ofcom on Twitter Subscribe to the Ofcom RSS Follow Ofcom on YouTube Follow Ofcom on YouTube

Independent regulator and competition authority
for the UK communications industries.

Search Ofcom


Rheoleiddio gwasanaethau VoIP

Crynodeb o’n hymgynghoriad

Cyflwyniad

Ni (Ofcom) yw rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau teledu, radio, telegyfathrebiadau a chyfathrebu diwifr yn y DG.

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi ein dull arfaethedig o reoleiddio gwasanaethau llais o ganlyniad i ddatblygiadau technolegol newydd. Yn benodol, mae’n edrych ar y modd y dylwn reoleiddio gwahanol fathau o wasanaethau Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (gwasanaethau VoIP) er mwyn sicrhau bod buddiannau cwsmeriaid yn cael eu hamddiffyn cyn belled ag y bo modd. Mae’r llyfryn hwn yn rhoi crynodeb i chi o sut rydym yn bwriadu rheoleiddio gwasanaethau VoIP. Gallwch weld y ddogfen ymgynghori lawn ar ein gwefan yn www.ofcom.org.uk.

Mae gwasanaethau ffôn traddodiadol wedi bodoli ers dros 100 mlynedd. Fodd bynnag, mae newidiadau’n digwydd a allai effeithio’n sylweddol ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol. Yn benodol, mae gwasanaethau llais sy’n defnyddio’r ‘Protocol Llais dros y Rhyngrwyd’ (VoIP) yn newid y modd y caiff gwasanaethau llais eu cyflwyno. Fel arfer mae’r gwasanaethau hyn yn defnyddio cyswllt band eang i ddarparu galwadau llais gan ddefnyddio technoleg VoIP drwy gyfrifiadur personol gyda set law neu glustffon, neu addaswr arbennig wedi’i gysylltu i set law ffôn traddodiadol. Gallai gwasanaethau VoIP fod o fudd mawr i gwsmeriaid drwy leihau cost cyflwyno gwasanaethau presennol, annog gwasanaethau newydd a chynyddu cystadleuaeth.

Pan fydd technolegau’n newid, byddwn yn disgwyl i gwsmeriaid elwa fwyaf fel arfer:

  • pan ellir cyflwyno technoleg newydd yn gyflym;
  • pan nad yw rheoliadau’n atal cynnig gwasanaethau newydd; a
  • phan fydd cystadleuaeth deg rhwng technolegau a gwasanaethau hen a newydd.

Mae’n bwysig hefyd wrth i dechnoleg ddatblygu, ein bod yn adolygu mesurau i amddiffyn cwsmeriaid fel bod y mesurau’n parhau i fod yn gwbl effeithiol.

Mewn ymateb i ddatblygiadau cynnar mewn gwasanaethau VoIP a thrafodaethau â rhanddeiliaid (fel gweithredwyr a chwsmeriaid rhwydwaith), cyhoeddwyd dogfen ymgynghori gennym o’r enw ‘Gwasanaethau Llais Newydd: Ymgynghoriad ac arweiniad interim’ ar 6 Medi 2004 (‘ymgynghoriad 2004’). Mae’r ddogfen honno’n nodi ein cynigion i helpu sicrhau ein bod yn bodloni buddiannau cwsmeriaid. Roedd y cynigion yn adlewyrchu terfynau cyfarwyddebau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd a’r ffaith bod gwasanaethau VoIP yn dal i fod yn gymharol newydd.

Er mis Medi 2004, bu nifer o ddatblygiadau pellach sy’n golygu bod angen i ni ailasesu ein cynigion blaenorol i wneud yn siwr ein bod yn cyflawni ein nodau ar gyfer gwasanaethau VoIP.

Mae’r ddogfen ymgynghori lawn yn nodi ein dull arfaethedig o reoleiddio gwasanaethau VoIP er mwyn annog parhau i ddatblygu gwasanaethau VoIP yn y dyfodol a gwneud yn siwr ein bod yn parhau i fodloni buddiannau cwsmeriaid.

In this section

Back to top