a a a Display Options Cymraeg
Follow Ofcom on Facebook Follow Ofcom on Twitter Subscribe to the Ofcom RSS Follow Ofcom on YouTube Follow Ofcom on YouTube

Independent regulator and competition authority
for the UK communications industries.

Search Ofcom


Y Farchnad Gyfathrebu: Cenhedloedd a Rhanbarthau Adroddiad Ymchwil

Rhagair

Mae’r arolwg hwn yn rhan o gyfres o adroddiadau Ofcom am y Farchnad Gyfathrebu. Mae’n archwilio argaeledd gwasanaethau cyfathrebu ledled y DG a’r nifer sy’n eu prynu ac yn eu defnyddio, ac yn archwilio sut y caiff buddiannau dinasyddion a defnyddwyr eu bodloni a sut y mae’r darlun hwn yn amrywio yn ôl pob un o’r cenhedloedd a’r rhanbarthau.

Buom yn gweithio ar y prosiect hwn i fynd i’r afael ag adborth rhanddeiliaid a nododd y dylai gwaith Ofcom ystyried y gwahaniaethau rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DG. Mae’r prosiect yn gyson â dyletswyddau Ofcom i sicrhau bod ystod eang o wasanaethau cyfathrebu electronig ar gael ledled y DG, gan ystyried gwahanol fuddiannau pobl sy’n byw mewn gwahanol rannau o’r DG ac mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Mae’r arolwg yn ystyried y tri llwyfan cyfathrebu sylfaenol, sef telathrebu (gan gynnwys llinellau ffôn sefydlog a ffonau symudol ail a thrydedd genhedlaeth), y rhyngrwyd (gan gynnwys band eang) a darlledu digidol (gan gynnwys teledu a radio digidol). Mae’n archwilio’r patrymau allweddol ar gyfer y gwasanaethau hyn fel y maent yn berthnasol i argaeledd, y nifer sy’n eu prynu a’r nifer sy’n eu defnyddio ledled y DG, ymhlith defnyddwyr a busnesau bach a chanolig.

Casglwyd y rhan fwyaf o’r data yn yr adroddiad drwy waith ymchwil a gynhaliwyd yn ail hanner 2005, gan gynnwys astudiaeth olrhain preswyl Ofcom, Archwiliad Llythrennedd y Cyfryngau a gweithredwr data ar gyfer signal ffonau symudol, llinellau tanysgrifiwr digidol ( DSL) a chebl.

Dylid ystyried yr adroddiad hwn yng nghyd-destun cyfres o arolygon ymchwil cyflenwol a gyhoeddir gan Ofcom yn ystod 2006. Mae’r rhain yn cynnwys Archwiliad Llythrennedd y Cyfryngau, (cyhoeddwyd y prif adroddiad ym mis Mawrth 2006 ac mae’r adroddiad atodol am lythrennedd y cyfryngau yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r adroddiad hwn), adroddiadau am gysylltiad defnyddwyr a busnesau bach a chanolig â gwasanaethau digidol a’r adroddiad blynyddol am y Farchnad Gyfathrebu (cyhoeddir y cyfan yn ddiweddarach eleni).

Credwn y bydd yr adroddiad hwn yn adnodd gwerthfawr i Ofcom, llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol a rhanddeiliaid eraill, er mwyn teilwra eu hymagwedd at wahaniaethau cenedlaethol a rhanbarthol o ran argaeledd gwasanaethau cyfathrebu a’r nifer sy’n eu prynu a’u defnyddio. Cynhelir cyfres o seminarau Gwledig, Rhanbarthol ac Anghysbell yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau yn fuan ar ôl cyhoeddi er mwyn eu defnyddio fel fforwm i drafod canfyddiadau’r ymchwil. Yna bydd Ofcom yn cyhoeddi adroddiad terfynol a fydd yn asesu goblygiadau canfyddiadau’r ymchwil ar waith cyfredol ac arfaethedig Ofcom a, lle bo’n briodol, yn gwneud argymhellion.

Ein bwriad yw y dylid ailadrodd yr arolwg cenhedloedd a rhanbarthau yn rheolaidd ac ychwanegu ato, lle bo’n briodol, ymchwil pellach ledled y DG ymhlith lleiafrifoedd ethnig, grwpiau anabledd a grwpiau oedran ac economaidd-gymdeithasol allweddol.

Back to top